Dweud y gwir yn blaen: straeon mabwysiadu

Dweud y gwir yn blaen: straeon mabwysiadu

Yn y podlediad mabwysiadu hwn, mae grŵp o fabwysiadwyr yn siarad â'i gilydd am eu profiadau - o'r camau cyntaf i gefnogaeth ôl-fabwysiadu. Nid oedd unrhyw un yn adnabod ei gilydd cyn y recordiad ond o fewn eiliadau bydd fel gwrando ar hen ffrindiau'n siarad. Maen nhw'n chwerthin gyda'i gilydd, maen nhw'n crio gyda'i gilydd. I ddarganfod mwy am fabwysiadu gyda'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, gallwch: Ddilyn ni @nas_cymru a @nationaladoptionservice Cysylltwch â ni adoptcymru.com

Episodes

March 28, 2023 23 mins
Yn y bennod olaf arbennig hon, ry'n ni'n clywed o lygad y ffynnon gan bobl ifanc wedi eu mabwysiadu. Y bobl ifanc piau hi! Ydyn, maen nhw am ddweud eu dweud! Mae Mimi, Sarah a Seren oll yn rhan o grwpiau Connected, sy'n cael eu rhedeg gan Adoption UK ar ran y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Maen nhw'n trafod rhai o'r heriau maen nhw wedi eu hwynebu, yn ogystal â siarad am eu rhan yn herio y camsyniadau sydd gan eraill am fabwys...
Mark as Played
Pwy sy’n gallu mabwysiadu? Ydw i’n gallu mabwysiadu os dwi mewn cwpwl un rhyw? Neu yn sengl? Neu o ddiwylliant arbennig?

Yn y bennod hon ry’ ni'n ceisio cywiro'r camsyniadau camargraff sydd gan rai am bwy sy’n gallu gwneud cais i fabwysiadu a thrafod pam fod cael pwll eang o fabwysiadwyr amrywiol i ddewis ohono yn hanfodol bwysig i’r plant sy’n aros am riaint.

Ry ni’n clywed am y gofidion oedd gan Gwawr a Rhys – y ddau mew...
Mark as Played
November 30, 2022 24 mins
Beth mae bywyd ysgol yn meddwl i blentyn mabwysiedig? Sut mae sicrhau bod eich plentyn yn cael y profiad gorau o fyd addysg?

Yn y bennod hon ry’n ni’n dod i ddeall pa mor gyffredin yw Angenion Dysgu Ychwanegol mewn plant wedi eu mabwysiadu.

Ry’n ni’n clywed gan Rhys am y modd mae e wedi cyd-weithio gyda’r ysgol i wella profiad ei fab, mae Gwawr yn siarad am y pwysigrwydd o gyfathrebu ac estyn allan am gymorth lle bod angen ac mae R...
Mark as Played
November 16, 2022 31 mins
Ydy cariad yn gallu gorchfygu effaith trawma? Sut mae trawma yn amlygu ei hun mewn plentyn mabwysiedig? Pa gymorth a chynhaliaeth sydd ar gael i deuluoedd?

Yn y bennod hon ry’n ni’n trafod effaith hir-dymor trawma yn mywyd cynnar plentyn sydd wedi mabwysiadu, y modd mae hyn yn cael ei drafod yn ystod y broses fabwysiadu a’r modd mae ein rhieni yn delio gydag e o dydd i ddydd wrth rianta.

Fe wnawn ni glywed gan Rhys, Gwawr a Racha...
Mark as Played
November 2, 2022 32 mins
Sut mae cadw cysylltiad gyda theulu geni plentyn sydd wedi mabwysiadu? A sut mae estyn allan a chreu cysylltiadau gyda brodyr a chwiorydd plentyn, plant sydd erbyn hyn ar wasgar o bosib?

Yn y bennod hon mae ein rhieni yn rhannu eu profiadau nhw o’r broses o gyfathrebu gyda theuluoedd geni eu plant, ynghyd â theuluoedd maeth, ac am y ffordd maen nhw’n trin a thrafod disgwyliadau eu plant.

Mae Rhys yn sôn am gwrdd â mam biolegol ei ...
Mark as Played
October 18, 2022 28 mins
Sut ‘ych chi’n dechrau meddwl am fabwysiadu plentyn? Beth yw’r broses y mae’n rhaid ichi fynd drwyddi a pha benderfyniadau anodd a chymhleth sy’n dilyn?

Yn y bennod gyntaf hon o gyfres newydd mae tri rhiant o Gymru yn rhannu eu profiadau nhw o’r broses o fabwysiadu plant a’u cyflwyno i’w cartrefi parhaol.

Maen nhw’n siarad am ddwyster y broses, dysgu amdanyn nhw’u hunain, addasu disgwyliadau, siom a gorfoledd y broses baru, trawm...
Mark as Played
December 12, 2020 24 mins
Yn y rhifyn hwn, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am y cymorth sydd ar gael ar ôl i'r broses baru gael ei chwblhau, a’r rôl y mae gweithwyr cymdeithasol ac asiantaethau mabwysiadu yn ei chwarae ym mywydau teuluoedd mabwysiedig.
Mark as Played
November 28, 2020 30 mins
Yn y bennod hon, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am sut wnaethon nhw ddatblygu perthynas glos gyda’u plant. Sut ydych chi’n sicrhau bod eich plentyn mabwysiedig yn teimlo’n ddiogel ac yn teimlo cariad, a pha mor hir cyn i chi wybod mae beth rydych chi’n neud yn gwneud gwahaniaeth.
Mark as Played
November 14, 2020 31 mins
4. Yn y bodlen hon, bydd ein mabwysiadwyr yn sôn am yr wythnos gyntaf treulio’n nhw gyda’u plant a’r realiti eu bod nhw bellach yn rhieni.
Mark as Played
October 31, 2020 26 mins
3. Mae'r bennod hon yn ymwneud ag un o rannau mwyaf emosiynol dwys y daith: paru plant â'u teuluoedd newydd. A oes y fath beth â'r ffit berffaith?
Mark as Played
October 17, 2020 29 mins
Yn yr ail bennod, mae ein mabwysiadwyr yn trafod eu profiadau o gael eu hasesu a’r broses gymeradwyo. Maen nhw'n sôn am y pwysigrwydd o sefydlu perthynas gadarn gyda’ch gweithiwr
cymdeithasol- a pheidio mynd mewn panig i lanhau'r tŷ! Bydd y sgwrs hefyd yn troi at rai o’r sialensiau gawson nhw o geisio cyflawni’r broses trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mark as Played
October 13, 2020 27 mins
1. Yn y bennod gyntaf fe ddown i i gwrdd â'n mabwysiadwyr wrth iddyn nhw ddod i nabod ei gilydd dros baned rhithiol! Maen nhw'n sôn am eu rhesymau dros fabwysiadu ac fe fyddwn yn dilyn eu hynt a'u helynt wrth iddyn nhw wynebu rhai o ragdybiaethau mabwysiadu, yn enwedig fel dyn hoyw a mam sengl.
Mark as Played

Popular Podcasts

    Current and classic episodes, featuring compelling true-crime mysteries, powerful documentaries and in-depth investigations.

    Death, Sex & Money

    Anna Sale explores the big questions and hard choices that are often left out of polite conversation.

    Stuff You Should Know

    If you've ever wanted to know about champagne, satanism, the Stonewall Uprising, chaos theory, LSD, El Nino, true crime and Rosa Parks, then look no further. Josh and Chuck have you covered.

    Crime Junkie

    If you can never get enough true crime... Congratulations, you’ve found your people.

    Start Here

    A straightforward look at the day's top news in 20 minutes. Powered by ABC News. Hosted by Brad Mielke.

Advertise With Us
Music, radio and podcasts, all free. Listen online or download the iHeart App.

Connect

© 2024 iHeartMedia, Inc.